GwynethDAVIESDAVIES - GWYNETH, Groe, Dolanog. Hunodd yn dawel yn ei chartref yn y Groe, Dolanog wedi gwaeledd hir, ar y 18fed o Ebrill 2015 yn 76 mlwydd oed. Priod annwyl Gwyn, mam dyner Huw, Arwyn a Nerys, mam yng nghyfraith Gwenllian, Nain Nel ac Eldra a chwaer dyner Dewi a'r diweddar Ken. Gwasanaeth cyhoeddus am 2.00, Dydd Sadwrn y 25ain o Ebrill yng Nghapel Bethel, Llanerfyl ac yna i ddilyn ym mynwent Eglwys y Santes Erfyl. Funeral service to be held at 2.00pm on Saturday, April 25th in Capel Bethel, Llanerfyl. Ymholiadau i R.G. Peate, Ymgymerwr, Y Trallwng. Ffôn: 01938 559256 neu 01691 648 358.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwyneth