Benjamin John DonaldDAVIESYn dawel yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar ddydd Llun 24ain o Fehefin 2019 hunodd Donald, 48 Bro Henllys, Felinfach. Priod hoff y diweddar Shirley, tad tyner Islwyn, Alwyn, Gethin a Meirin. Tad yng nghyfraith barchus Ruth, Non, Jane a Jen. Tad-cu annwyl Jamie, Zoe, Megan, Sara, Sioned a Beca. Brawd ffyddlon Mansel. Angladd cyhoeddus yn Eglwys Sant Mihangel, Ystrad Aeron ar ddydd Mawrth 2ail o Orffennaf am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion os dymunir tuag at 'Uned Strôc', Ysbyty Bronglais, Aberystwyth trwy law:- Alan Edwards, Trefnwr Angladdau, D Edwards ai fab, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbed, SA48 7PN
Keep me informed of updates
Add a tribute for Benjamin