DavidDAVIESDai Yn dawel ar Ebrill 24ain 2020 yn Ysbyty Glangwili yn 96 mlwydd oed, Dai, gynt o Barnsfield Terrace, Caerfyrddin. Priod hoff y diweddar Sally; tad a thad yng nghyfraith annwyl Elvira a Martin ac Elonwy a John; tadcu cariadus Dyfrig a Hannah, Rhiannon, Lleu a Rhiannon a Rhun; hen dadcu hoffus Buddug a Bedwyr. Angladd hollol breifat yn unol â'r amgylchiadau presennol. Cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at 'Papur Llafar y Deillion Caerfyrddin' - sieciau yn unig - trwy law Peris Rice, Old Oak Chapel of Rest, Heol Hen St Clêr, Caerfyrddin, SA31 3JF; ffôn: 01267 243787.
Keep me informed of updates