MiriamDAVIESDAVIES - MIRIAM, . Awst 16eg. 2020. Yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd ac o 17 Llwyn y Ne, Clynnog Fawr yn 91 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar William Lloyd Davies, mam, mam yng nghyfraith, nain, hen nain a hen hen nain annwylaf ac unig chwaer Robat Williams (Bob Peintar Penygroes). Angladd fore Sadwrn Awst 22ain. Gwasanaeth cyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Clynnog Fawr am 11 o'r gloch gan gadw at y rheolau pellter cymdeithasol sydd yn bodoli. Bydd yr hers yn gadael 17 Llwyn y Ne am 10.45y.b. cyn gwneud ei ffordd at borth yr Eglwys. Derbynnir blodau yn ddiolchgar. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates