MiriamDAVIESDymuna Dafydd, Mary ac Ann a theulu'r ddiweddar Miriam Davies, 17 Llwyn y Ne, Clynnog, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain, hen-nain a hen-hen-nain annwyl ac arbennig iawn. Diolch yn ddiffuant i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasanaeth meddylgar ar lan y bedd. Diolch hefyd i staff Meddygfa Llanaelhaearn, y nyrsys cymunedol a gofalwyr Seashells am eu gofal o Miriam. Yn olaf diolch i Huw John Jones a Beti am eu trefniadau gofalus a thrylwyr.
Keep me informed of updates