Dafydd RhodriDAVIESHunodd ddydd Llun 7fed o Fedi, Dafydd Rhodri, Pontargamddwr, Tynreithin, Tregaron. Priod hoff Sian, tad perffaith Mali a Gwawr, mab addfwyn Mair a David John, brawd annwyl Dafydd a Gareth, mab yng nghyfraith hoffus Noreen a ffrind da i Mick, brawd yng nghyfraith ac wncwl gofalus a ffrind teyrngar i bawb. Gwasanaeth Preifat yn Eglwys Gartheli yn ol yr amlgylchiadau presennol ddydd Sadwrn 19eg o Fedi am 1 o'r gloch. Bydd croeso i berthnasau, cymdogion a ffrindiau fod tu allan y fynwent. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir tuag at Tir Dewi ac Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Tom Eurfyl Jones, Trefnwr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffon: (01974) 298500
Keep me informed of updates