VeronaDAVIESYn dawel ar Hydref 25ain 2020 yn Ysbyty Glangwili yn 88 mlwydd oed hunodd Verona, Danyrallt, Llanarthne, gynt o Bremenda Uchaf. Priod ffyddlon y diweddar John, mam gariadus Gareth a'i wraig Ann, mam-gu arbennig Cerys, Siân a Gwenllian, hen fam-gu balch Gwenno, Betsan, Hanna a Mali, chwaer annwyl y diweddar Lizzie Mary a Ben. Angladd Preifat yng Nghapel Saron, Llanarthne dydd Sadwrn, Hydref 31ain 2020. Bydd yr angladd yn gadael Bremenda am 12.45y.p. Croeso i ffrindiau i sefyll ar hyd y ffordd ym mhentref Llanarthne er mwyn talu'r deyrnged olaf. Rhoddion er cof, os dymunir, i Gapel Saron trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates