Evan David (Iwan)DAVIESChic Rhydygaer Yn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Llun, Mawrth 1af, 2021 hunodd Iwan, Rhydygaer, Blaenporth, Aberteifi, priod annwyl Beryl, tad a thad-yng-nghyfraith hoff Huw a Lorna. Angladd hollol breifat, trwy wahoddiad yn unig, ddydd Gwener, Mawrth 12fed, yn gadael Rhydygaer am 1.45 o'r gloch tuag at Amlosgfa Aberystwyth. Blodau'r teulu yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. Ffôn 01239 654240.
Keep me informed of updates