Emyr Wyn (Llety Ifan Hen)DAVIESYn frawychus o sydyn yn ei gartref ar ddydd Sul, 9fed Ionawr 2022, yn 79 oed. Gŵr cariadus a ffrind gorau Lisa, tad annwyl Huw, Nia, Alwen a Elin; tad yng nghyfraith hoff Margaret, Robin, Jon a Rhys; tadcu balch Sara, Lois, Lleucu, Elain, Gruff, Beca a Heti a brawd hoff Alun a'r diweddar Menna. Gwasanaeth cyhoeddus ar ddydd Mercher 26ain Ionawr 2022 am 1pm yn Eglwys Sant Pedr Elerch, Bontgoch. Gwasanaeth preifat i ddilyn yn Amlosgfa Aberystwyth. Blodau'r teulu yn unig. Derbynir rhoddion er cof am Emyr i Apêl Cemo Bronglais a Uned y Byddar, Canolfan Elfed, Ysgol QE High trwy law Selwyn Evans, D J Evans Cyfarwyddwyr Angladdau, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth SY23 3EQ. Ffôn 01970 820249.
Notify me with new activity on this notice