IforDAVIESCil-Coed Isaf, Clynnog Fawr. Dymuna Marie, Elin, Dafydd a theulu'r diweddar Ifor Davies ddiolch am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch am y cardiau, y blodau a'r rhoddion hael. Bydd yr arian a gasglwyd yn cael ei roi i Feddygfa Aelhaearn am eu gofal diffuant o Ifor a chyfraniad yn cael ei roi i Ysgol Brynaerau. Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i Dr. Arfon Williams a'r staff i gyd ym Meddygfa Aelhaearn, Meirion MacIntyre Huws am arwain y gwasanaeth teimladwy, Ioan Pollard am ei ddarlleniad, Ilid Jones yr organyddes, Gillian Evans am drefnu'r blodau hardd ac Enid Jones a'r holl staff yng Nghlwb Golff Caernarfon am baratoi lluniaeth wedi'r angladd. Diolch yn fawr i'r ymgymerwr Huw, Beti ac Emlyn am drefniant gofalus.
Keep me informed of updates