Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

The obituary notice of Dr Charlotte Aull DAVIES

Swansea (Abertawe), 08/10/1942 - 18/02/2023 (Age 80) | Published in: South Wales Evening Post.

(1) Photos & Videos View all
Morriston Funeralcare
Morriston Funeralcare
Visit Page
Change notice background image
Dr Charlotte AullDAVIESGyda thristwch mawr, mae teulu Dr Charlotte Aull Davies yn cyhoeddi ei marwolaeth ar Chwefror 18, 2023, yn dilyn salwch hir a ymladdodd yn ddewr yn ei chartref yn Nhreforys, Abertawe. Wedi'i geni a'i magu yn Kentucky, UDA, enillodd Charlotte ei PhD ym Mhrifysgol Duke Gogledd Carolina yn dilyn ei hastudiaeth o ethnigrwydd a gwleidyddiaeth Gymreig pan ddysgodd Gymraeg. Daeth yn Uwch Ddarlithydd Anthropoleg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe, ac roedd yn awdur dau lyfr. Mae Charlotte yn gadael ei gŵr cariadus, Hywel, merch Elen Gwenllian a mab yng nghyfraith Adam yn Abertawe, chwaer Helen yng Ngogledd Carolina, chwaer yng nghyfraith Susan a nithoedd Dana a Hannah yn Ne Carolina, a chwaer yng nghyfraith Maureen a'i nai Aled a Diana a'r teulu yn Hertford, Lloegr. Diolchir am bob neges a gweithred o gydymdeimlad, gan gynnwys y rhai gan gyd-aelodau Capel y Nant, Clydach. Cynhelir Gwasanaeth Angladdol Charlotte yn Amlosgfa Treforys ddydd Mercher, Mawrth 15, am 2.30yp. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion os dymunir i Medecins Sans Frontieres/Doctors Without Borders. Rhagor o wybodaeth gan. * * * * * With great sadness, the family of Dr Charlotte Aull Davies announce her death on February 18, 2023, following a long illness bravely fought at her home in Morriston, Swansea. Born and bred in Kentucky, USA, Charlotte gained her PhD at Duke University North Carolina following her study of Welsh ethnicity and politics during which she learnt Welsh. She became a Senior Lecturer in Anthropology and Sociology at Swansea University, and was the author of two books. Charlotte leaves behind her loving husband, Hywel, daughter Elen Gwenllian and son-in-law Adam in Swansea, sister Helen in North Carolina, sister-in-law Susan and nieces Dana and Hannah in South Carolina, and sister-in-law Maureen and nephew Aled and Diana and family in Hertford, England. Thanks are expressed for all messages and acts of sympathy, including those by fellow members of Capel y Nant, Clydach. Charlotte's Funeral Service will be held at Morriston Crematorium on Wednesday, March 15, at 2.30pm. Family flowers only. Donations if desired to Medecins Sans Frontieres/Doctors Without Borders. Further information from: Morriston Co-op Funeralcare, 01792 798257. Morriston Funeralcare 105-107 Clase Road, Morriston Swansea SA6 8DY
Keep me informed of updates
Add a tribute for Charlotte
3797 visitors
|
Published: 06/03/2023
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
25 Tributes added for Charlotte
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Thank you from
Medecins Sans Frontieres (Uk)
For all the donations given
07/04/2023
Comment
Cofion annwyl am ffrind arbennig
Donation left by Hefina Davies
19/03/2023
Comment
Atgofion cynnes am berson da oedd â thàn yn ei chalon dros y greadigaeth.
Donation left by Annette a Dewi Hughes
17/03/2023
Comment
Atgofion melys am berson hynod.
Donation left by Teulu Couch
16/03/2023
Comment
Ein cydymdeimladau dwysaf ac atgofion cynnes am Charlotte. Ei chyfrol ar yr 'Ethnic Option' yn ddylanwad arnaf ac mi fyddwn yn colli ei chyfraniadau i'r cyfnodolion. Cofion cynnes at y teulu. Daniel a Sioned Williams
Donation left by Daniel a Sioned Williams
15/03/2023
Comment
Atgofion hyfryd o ymgyrchu yn ogystal â chymdeithasu sydd gyda fi dros gyfnod hir - ralïau dros annibyniaeth i Gymru, hawliau dynol, yr amgylchedd ac yn y blaen. Wedyn y cymdeithasu dros beint o gwrw go iawn, a'r coctêls a choffi wythnosol dros Zŵm yn ystod y cyfnodau clo. Roedd Charlotte yn dawel ar yr wyneb ond yn bersonoliaeth gref a chadarn ei barn gyda hiwmor cynnil a hoffus. Roedd ei sgwrs am wleidyddiaeth America, ceffylau a jazz bob amser yn ddifyr a gwerth ei chlywed. A hyn oll yn Gymraeg, yr iaith a ddysgodd mor huawdl. Gwelwn ni ei heisiau'n fawr iawn.

Mari Evans
Mari Evans
15/03/2023
Comment
Cwrddais gyntaf â Charlotte pan ddaeth hi'n fyfyrwraig PhD o America i Swyddfa Plaid Cymru rywbryd yn yr 1980au cynnar i holi am hynt a hanes y mudiad. Ychydig a wyddwn ar y pryd y byddai Charlotte yn priodi fy nghyfaill Hywel ac yn byw yng Nghymru, gan ddod yn gymeriad hoffus ac adnabyddus. Bydd nifer yn gyfarwydd â'i llyfr nodedig Welsh Nationalism in the Twentieth Century, ond bu Charlotte hefyd yn awdurdod ym maes anthropoleg, yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn awdur toreithiog. Roedd hi hefyd yn fam annwyl ac yn ffrind cywir. Dymunwn bob bendith i Hywel, Elen ac Adam yn eu hiraeth.

Dafydd Williams
Dafydd Williams
15/03/2023
Comment
We are with you in spirit. Much love.

Carlisle Cousins

Joseph, Vickie, Angie, Tim, Janelle, Karen and Kelly
Donation left by Carlisle Cousins
14/03/2023
Comment
We are with you in spirit. Much love.

Carlisle Cousins

Joseph, Vickie, Angie, Tim, Janelle, Karen and Kelly
Donation left by Carlisle Cousins
14/03/2023
Comment
Mor sori,Hywel ac Elen
Donation left by Mary Evans
12/03/2023
Comment