David Lynn ThomasDAVIESYn dawel ar ddydd Mawrth, Mawrth 21ain yng nghwmni ei deulu, ar ôl cystudd byr hunodd Lynn yn ei gartref Min-yr-Allt, Pontgarreg yn 81 mlwydd oed. Priod cariadus Christine, tad tyner Siân ac Angharad, tad yng nghyfraith parchus Aled a Llŷr, tadcu addfwyn Jac, Megan, Tomos a Iestyn, brawd, brawd yng nghyfraith ac wncwl ffyddlon. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Sant Carannog, Llangrannog dydd Sadwrn, Ebrill 1af 2023 am I o'r gloch, claddedigaeth i ddilyn ym mynwent Capel Soar, Penboyr. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion os dymunir er cof am Lynn tuag at Meddygfa Emlyn ac A.R.T. Ceredigion (sieciau'n daladwy i Cenfil Reeves a'i Fab Donation Account) trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffôn - 01545 590254
Keep me informed of updates