John Bernard ZaccheusDAVIESJ.B.Zac Davies Ar yr wythfed o Awst, yn dawel yn ei gartref, bu farw Zac. Cymar enaid Ann, tad annwyl Hywel, Meilyr, Tomos, Rhidian a Trystan; tad-yng-nghyfraith mwyn Jenny, Lisa, Siân, Elinor a Lon a thadcu cariadus Ioan ac Osian, Efa a Megan, Alys a Wiliam, Elis a Betsan a Cu-cu Gwenllian a Gruffudd. Cynhelir gwasanaeth o ddiolch am ei fywyd yn Eglwys Annibynnol Minny Street, Caerdydd ar Ddydd Llun, Medi'r 4ydd am 1.15 p.m. ac i ddilyn, yn Amlosgfa Thornhill am 2.45p.m.. Derbynnir rhoddion er côf, os dymunir, at waith Cymorth Cristnogol gan Green Willow Funerals, Coronation Road, Birchgrove, Caerdydd, CF14 4QY.
Keep me informed of updates