GwynethDAVIESGorffennaf 15ain, 2024
Hunodd yn dawel yn ei chartref, yn Pendyffryn, Cyffordd Llandudno yn 83 mlwydd oed. Gynt o Hendyrnpeg, Tregarth a Dol Elidir, Llanberis.
Gwraig ffyddlon a chariadus y diweddar Wilf, mam annwyl a charedig i Mair, Menai ac Einir (Sally). Nain hoffus a thyner i Michelle, Ian, Jack, Glyn, Monica, Richard a Kevin. Nain Gwyneth i Ethan bach a nain Junction i Blake, Alfie a Inaya. Chwaer ieuengaf i'r diweddar David, Emyr, Catherine,Vera, Glyn ac Arfon a modryb dymunol i lawer. Mam a chwaer yng nghyfraith addfwyn.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Presbyteraidd ym Mae Penrhyn, ddydd Mercher Gorffennaf 31ain am 12:00 o'r gloch, a gwasanaeth breifat i'r teulu yn Amlosgfa Bron y Nant, Mochdre am 1:30 o'r gloch. Dim dillad galar.
Derbynnir rhoddion am ei chof yn ddiolchgar tuag at Cats Protection drwy law yr Ymgymerwr.
Yn dawel hiraethwn, gyda chariad mi gofiwn.
Ymholiadau Lambert & Sons, 69 Conwy Road, Llandudno Junction 01492 581072.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwyneth