Hannah NestaDAVIESYn dawel ar ôl cystudd hir yn nghartref gofal yr Annedd, Llanybydder yn 87 mlwydd oed. Nanna, priod hoff y diweddar Evan, mam hoffus Ann, Margaret a Wyn, mam yng nhyfraith parchus Danny a Ann, mamgu annwyl Christine a'i phriod Luke a Alison a'i phriod Chris, hen famgu balch Faye, Ellie-Maie, Harvey, Gracie a Lottie, chwaer agos Eirwyn a'r diweddar Eileen a chwaer yng nghyfraith hoffus Margaret a'r diweddar Glasfryn.
Gwasanaeth preifat yng Nghapel Pantydefaid, Prengwyn ar Ddydd Llun 27ain o Ebrill 2026.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Dementia UK trwy law
Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched, 1 a 2 Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DY. 01570 422673
Keep me informed of updates