KenEAMESDymuna Jeff a Marian, brawd a chwaer-yng-nghyfraith y diweddar Ken Eames ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth. Diolch am y llythyrau, cardiau, galwadau ffôn a'r rhoddion hael er cof am Ken tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Diolch i'r ymgymerwyr Roberts ac Owen am eu trefniadau trylwyr a sensitif ac i'r Parchedig Ddr. Huw John Hughes am ei wasanaeth arbennig. Diolch i'r Gwasanaethau Brys am eu hymdrechion. Diolch hefyd i bawb ddaeth i dalu'r gymwynas olaf, gyda'r amgylchiadau yn ei wneud yn amhosib i gydnabod pob un oedd yn bresennol yn unigol.
Keep me informed of updates