Olive MaiEDWARDSLlwyncolfa Coed, Tregaron, hunodd yn dawel yn yr Arglwydd Iesu, ddydd Llun, 26ain o Ebrill 2021, yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Harold; mam gariadus Michael, David a Ruth; mam yng nghyfraith hoffus Fran a Wallace; mamgu dyner Simon, Samantha, Luke, Florence, Beatrice, Lavinia a Reuben; hen famgu hyfryd Leon a Max; chwaer hynaf ffyddlon Caenwen, Gloria, Audrey a Kendrick. Angladd preifat yn Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal am 2 o'r gloch ddydd Sadwrn y 1af o Fai. Derbynnir unrhyw roddion, gyda diolch, tuag at Open Doors, elusen sy'n cefnogi Cristnogion erlidiedig ar draws y byd, trwy law Michael a Fran Edwards, Pencwm, Tregaron SY25 6LU.
Keep me informed of updates