VernonEDWARDS31 Awst 2026
Hunodd yn dawel yn ei gartref Llwyn Hedd, Gwalchmai ar ôl cystudd hir a chaled a brwydro i'r diwedd yn ddewr yn 63 mlwydd oed.
Gŵr gofalus a ffeind Sandra, Tad balch Caryl, Carwyn, Lowri a'r diweddar Lowri Elisabeth, Taid annwyl Efan, Bella, Caio, Harri, Jaco a Eiri Non, Tad yng nghyfraith gofalus, Brawd bach a ffrind triw i bawb. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll.
Gwasanaeth preifat yn ôl ei ddymuniad ond derbynnir rhoddion er cof am Vernon tuag at Eglwys St Morhaiarn, Gwalchmai trwy law
Griffith Roberts a'i Fab,
Preswylfa, Fali.
Ffôn (01407) 740 940
Keep me informed of updates