JonesEIDDWENJONES - EIDDWEN. Dymunai Meic a Tegai, a'r teulu ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a hwy yn eu profedigaeth o golli mam a nain arbennig iawn, sef y diweddar Eiddwen Jones. Diolch am y llu o gardiau, galwadau ffon a'r ymweliadau, diolch i'r Parch Jim Clarke am ei wasanaeth ar ddiwrnod yr angladd ac am ei deyrnged teilwng. Diolch i staff Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd am y gofal gafodd, diolch i W.O. a G. Williams, Rose & Thistle am eu trefniadau trylwyr a threfnus. Diolch hefyd am y rhoddion tuag at Ward Glaslyn.
Keep me informed of updates