Dr. MaryELLISYn dawel, ar Ionawr 25 2015, yn 101 oed, yn ei chartref yn Aberystwyth, bu farw Dr Mary Ellis wedi cyfnod byr o salwch; gweddw y diweddar Dr T I Ellis, Mam orau yn y byd i Marged a Rolant, Nain orau'r byd i Gwenllian, Llion ac Esyllt, Nainis hoff i Sioned, mam-yng-nghyfraith annwyl i Roger, modryb gariadus, a chyfaill triw i lawer. Cynhelir yr angladd yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth, am 11 y bore ar ddydd Gwener, Ionawr 30 2015, ac yna ym Mynwent Llanfair ger Harlech. Blodau'r teulu'n unig, cyfraniadau at Eglwys y Santes Fair, trwy law D J Evans, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth SY23 3EQ.
Keep me informed of updates