Iona MarianEVANSYn dawel ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 30, 2016, dan ofal Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, hunodd Iona, Llwydcoed, Coedybryn; priod y ddiweddar Garfield, mam Robert a mamgu Carwyn. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Coedybryn, ddydd Sadwrn Awst 6, 2016 am 11.30 o'r gloch, ac yna rhoddir i orffwys ym medd y teulu ym mynwent Bethel, Drefach Felindre. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner, tuag at Cartref Henllan trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl, Rhydlewis, SA44 5QH. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates