Olwen MaifisEVANSYn dawel tra yng nghwmni ei theulu ar ddydd Iau Hydref 23, 2014 hunodd Maifis ar ei haelwyd yn Gorwel, Pentrecwrt, Llandysul; gwraig annwyl Harry, mam dyner Nigel, Sian a Robert, mamgu balch Phillip, Cai, Ffion a Sara, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith hoffus ynghyd ag Anti gariadus. Gwasanaeth angladdol preifat, yn Amlosgfa, Parc Gwyn, Arberth ddydd Mercher Hydref 29 am 1 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau os dymunir tuag at Meddygfa Teifi trwy law Mr Kim Reynolds, Maes-y-Dderwen, Pentre-cwrt, Llandysul, Sir Gaerfyrddin, SA44 5AX.
Keep me informed of updates