Jenny MayEVANSYn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar Ragfyr 3, 2014, hunodd Jenny May Evans; merch y diweddar Fred ac Ann Evans gynt o Ffynnon Fach, Rhos, chwaer, chwaer-yng-nghyfraith a modryb hoffus. Angladd breifat yng nghapel Seilo, Rhos dydd Sadwrn Rhagfyr 6 am 12 o'r gloch. Torch deuluol yn unig, cyfraniadau os dymunir tuag at Ward Steffan, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin trwy law Wyn Williams, Trefnwr Angladdau, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul, SA44 5JE. Ffon 01559 370412.
Keep me informed of updates