RobertEVANSEVANS - ROBERT. 18 Mawrth, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn ei gartref, 3 Maes Dulyn, Pen-y-groes, yn 79 mlwydd oed. Priod addfwyn a thyner Rona, a thad gofalus Raymond, Robat, Lilian, Ian a Kevin; tad-yng-nghyfraith hoff Euryn, Ann a Lorraine, taid arbennig Mark, Mandy, Emma, Kelly, a Daron, a hen-daid balch Molly ac Ellie. Bydd colled enfawr i'w deulu a'i gyfeillion oll. Angladd brynhawn Mercher, 25 Mawrth, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Derbynnir blodau'n ddiolchgar er cof amdano, neu roddion, pe dymunir, i'w rhannu rhwng Marie Curie Cancer Care a Nyrsus Cymunedol Ardal Pen-y-groes. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6 PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates