EmlynEVANSEVANS - EMLYN (cyn reolwr Gwasg Gee, Dinbych), Tachwedd 13eg 2014, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 90 mlwydd oed, Llwyn Meurig, Rhos y Nant, Bethesda. Priod annwyl Eileen, tad balch i Dafydd Meurig a Morfudd Wyn, tad-yng-nghyfraith i Louise a Dewi, taid hoffus i Dewi, Llinos, Si?n a Rhian, Sara ac Ioan. Hen daid i Owain Daniel ac Io Rose. Angladd dydd Sadwrn 22ain Tachwedd, Capel Jerusalem, Bethesda am 10 o'r gloch y bore yna yn Amlosgfa Bangor am 11.30. Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach: Gareth Williams, Ymgymerwr Angladdau, 1 Garneddwen, Bethesda, 01248 600763.
Keep me informed of updates