HumphraEVANSEVANS - HUMPHRA, 11eg o Awst 2017. Yn dawel yn Ysbyty Dolgellau o Llwyn View, Dolgellau, yn 93 mlwydd oed. Priod annwyl y ddiweddar Dilys, tad gofalus Megan Mai a'i gwr Phil, taid cariadus Hedydd ac Eurgain, brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoffus. Gwasanaeth yng Nghapel y Tabernacl, Dolgellau, dydd Llun 21ain o Awst am 2 o'r gloch. I ddilyn ym Mynwent y Dref. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, tuag at Bapur Llafar y Deillion Dolgellau a Chymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, trwy law Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd LL40 1PY. Ff?n: 01341 422 322 neu Dinas Mawddwy 01650 531 240.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Humphra