Rachel MabelEVANSYn dawel dydd Llun Ionawr 6ed, 2020, yn ei chanfed blwyddyn, bu farw Rachel (Rach) gynt o Rhydwen, Pencader. Priod hoff y diweddar Sai, mam annwyl Lilwen ac Eileen, mam yng nghyfraith barchus Emyr, a mamgu a hen-famgu addfwyn a thyner. Cynhelir yr angladd dydd Sadwrn Ionawr 11eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tabernacl Pencader am 11.00 y bore, gyda gwasanaeth preifat i ddilyn ym Mynwent Pencader. Blodau'r teulu'n unig. Ymholiadau i'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. 01559 384279
Keep me informed of updates