MeirionEVANSDymuna Rhian, Gareth a theulu'r diweddar Meirion Evans, Bronallt, Henllan (gynt o Fach Gau, Rhiw) ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a gweithred o garedigrwydd a amlygwyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth o golli tad gofalus a brawd annwyl. Diolch yn fawr iawn am y rhoddion hael a dderbyniwyd er côf tuag at Urdd Cyfeillion Inffyrmari Dinbych. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Ddr. Rhodri Glyn am ei ymweliadau ac am arwain y gwasanaeth, ac i'r Parchedigion Graham Floyd a Robert Parry am eu cyfraniadau hwy a'u cefnogaeth. Diolch i Ceinwen Roberts am ei gwasanaeth ar yr offeryn, i Haf Evans am arwain y gân, i Margaret Davies a'r merched am ddarparu'r lluniaeth, ac i aelodau'r Capel am eu cymorth ddiwrnod yr angladd. Diolch o galon i Mair Owen am ei hymweliadau cyson â Meirion adref ac yn yr ysbyty, i feddygon a staff Meddygfa Bronyffynnnon am eu gofal arbennig ar hyd y blynyddoedd ac i staff Inffyrmari Dinbych am eu gofal tyner a charedig ohono. Yn olaf diolch yn fawr iawn i Arwel a staff R W Roberts a'i Fab am eu harweiniad a'u trefniadau teimladwy, trylwyr ac urddasol. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Meirion