TommyEVANSYn dawel, adre' ar Chwefror 4ydd 2021 yn 74 mlwydd oed hunodd Tommy, gynt o Ffynnonwen a Maes-y-Prior. Priod hoff Rosemary, tad gofalus Wendy a Jamie, Rhodri a Debbie, tad-cu balch Rhys ac Elin, Nia a Dion, Amber a Ronnie, brawd annwyl Sally a Graham. Angladd preifat dydd Mawrth, Chwefror 16eg 2021 yng Nghapel Gorffwys Login ac Amlosgfa Parc Gwyn. Bydd yr angladd yn gadael ei gartref ym Mancyfelin am 11.15yb. Croeso i ffrindiau i ddangos eu cefnogaeth. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Meddygfa Furnace House trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates