GwennoEVANS5ed Chwefror 2022. Yn dawel yn Ysbyty Alltwen, Tremadog o Eryl, Coetmor, Bethesda yn 89 mlwydd oed. (Cyn athrawes yn ysgolion Gerlan ac Abercaseg). Gwraig ffyddlon y diweddar Emlyn a mam amhrisiadwy Nia. Ffrind triw a chymdoges Jean, Anti Gwenno annwyl a charedig i lawer. Bydd chwith ar ei hol gan nifer o'i chyfeillion. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Mawrth 22ain Chwefror am 11-00 o'r gloch. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gwenno tuag at Cymorth Cristnogol. Ymholiadau pellach i Stephen Jones Trefnwr Angladdau Cyf., Pen y Bryn, Bethesda 01248 600455. Ebost: stephenjonesfuneraldirectors@outlook.com
Keep me informed of updates