BronwenEVANSGyda thristwch y cofnodir marwolaeth Bronwen Evans, Yr Hafod Lwyd, Hermon (Waun Lwyd gynt). Hunodd yn dawel ar 27ain o Dachwedd 2022 yn Ysbyty Glangwili ar ôl cystydd hir. Priod hoff y diweddar David Henry Evans (Dai Waun Lwyd) a bu farw tri deg wyth mlynedd yn gynt.
Ganed Bronwen i'r diweddar Thomas a Elizabeth Davies, Tryal Bach. Priododd Bronwen a Dai yn 1957 ac ymgartrefi a ffermio yn Waun Lwyd hyd nes ymddeol yn 1984, a symud i'w cartref newydd, Yr Hafod Lwyd, Hermon. Byr fu eu hapusrwydd gyda'i gilydd yno cyn i ergyd ofnadwy ym mywyd Bronwen daro pan fu farw ei phriod annwyl Dai yn frawychys o sydyn ag yntau ond yn 60 mlwydd oed. Bu ei theulu, cymdogion a ffrindiau yn gefnogath mawr iddi yn ystod amser galar a'r blynyddoedd dilynol. Hefyd tristwch oedd iddi golli Phil a Myrddin ei brodyr.
'Roedd Bronwen yn berson ei milltir sgwår, yn aelod ffyddlon ac yn un o'r ymddiriedolwyr yng Nghapel Hermon. 'Roedd yn berson gweithgar ac yn cymryd ei dyletswyddau o gadw'r Sul o ddifri a gyda sglein. 'Roedd pob un o'i neiniant a'i nithoedd a lle arbennig yn ei chalon. 'Roedd wrth ei bodd yn ei chynefin yn Hermon ac yn mwynhau cwmni ei theulu, ffrindiau a'i chymdogion o bob oed, gyda'r ifanc yn cael ei hadnabod fel 'Anti Bron'. 'Roedd yna groeso i bawb yn Yr Hafod Lwyd ac mae yna wacter mawr ar ei hôl. Bu Christine Evans yn gymorth mawr i Bronwen yn ystod ei blynyddoedd olaf.
Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yng Nhapel Hermon ar ddydd Llun, Rhagfyr 12fed 2022 yng ngofal y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a gynorthwywyd gan y Parchedig Dr. Emyr Gwyn Evans (Capel Peniel) gyda Mrs. Helen Evans wrth yr organ. Yr archgludwyr oedd Gareth Rees, John Davies, Bryan Davies ac Alan Evans. Y prif alarwyr oedd ei chwiorydd Betty a Medi, hefyd neiniant a nythoedd, Eirian a Diane, Sian a Kristian, Meleri a Geraint, Mefin ac Angharad, Emyr ac Enid, Rhian a Stanislas, Rhodri a Beth, Meirlys a Siôn ynghyd a nifer fawr o berthnasau eraill a ffrindiau.
Dymuna'r teulu ddioch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt, yn ymweliadau, cardiau a galwadau ffôn dderbyniwyd. Dymunia'r teulu ddiolch hefyd it Mr. Delme James y trefnwr angladdau am gyflawni y trefniadau gydag urddas ac am cymeryd gofal o'r rhoddion er cof am Bronwen.
Derbyniwyd £750.00 a rhanwyd rhwng Ward Teifi ac Uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Bronwen