Mark ShaunFOULKESChwefror 11, 2022 Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu, ar ôl salwch byr, yn ei gartref 3 Dol Elidir, Llanberis, yn 53 mlwydd oed. Mab cariadus a ffyddlon Joyce, brawd annwyl Judith, ewythyr arbennig Angharad, Guto a Gwenno, nai hoff Sheila, cefnder annwyl Sandra, Bedwyr, Lowri a Tirion a ffrind gorau Gwynfor, Elwyn, Adam, Andy a Rhian. Colled trist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis, ddydd Gwener, Chwefror 18, 2022 am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Nant Peris am oddeutu 2 o'r gloch. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau E W Pritchard 62 Stryd Fawr Llanberis Tel: 01286 870202.
Keep me informed of updates