EirwynGEORGEYn dawel ddydd Iau, Ebrill 9ed, 2026, Eirwyn George, Delfan, Maenclochog yn 89 mlwydd oed.
Priod annwyl Maureen, brawd-yng-nghyfraith agos Roy a Doreen, ewythr hoffus Trystan, Rhys, Caryl a Clare, hen-ewythr Mari, Elsi, Non, Efan ac Elin.
Oedfa gyhoeddus i ddiolch am ei fywyd a'i waith yng Nghapel Tabernacl, Maenclochog, ddydd Sadwrn, Mai 2 am 11.00 o'r gloch. Eitemau ar lafar ac ar gân.
Dim blodau, rhoddion, os dymunir, i 'Dyfodol i'r Iaith Gymraeg' neu 'Gartref Gofal Hillside, Wdig' (sieciau yn daladwy i 'Cyngor Sir Benfro') trwy law y Trefnyddion Angladdau Colin Phillips a'i Ferched, 4 Stryd Morgan, Aberteifi, SA43 1DF. Ffon: 01239 621192
Keep me informed of updates