Harry LloydGRIFFITH19 Rhagfyr, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yng nghartref ei ferch, Uwch y Don, Y Garth, Pontllyfni, (gynt o Gaernarfon a Thal-y-sarn), yn 91 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar Eurwen, a thad arbennig Tecwyn, Arwel, Olwen a Magwen; tad-yng-nghyfraith annwyl Dawn, Steven a Keith, taid balch Ian, Caryl, Alun, Connor, Sioned, Casey, Tomos, Madi a Darcy, a hen-daid gofalus i Beca, Cynan, Alaw, Elin, Millie, Lwsi, Caio ac Evie. Hefyd brawd John Ryan, Myfanwy a'r diweddar Maldwyn a'u teuluoedd, a chyfaill triw i lawer.
Angladd fore Llun, 6 Ionawr 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Baladeulyn, Nantlle am 11.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah.
Derbynnir blodau'n ddiolchgar er cof amdano, neu roddion, pe dymunir, tuag at y Nyrsys a'r Gofalwyr Cymunedol mewn cydnabyddiaeth o'u cyfeillgarwch a'u gofal ohono. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Harry