GwilymGRIFFITHSGRIFFITHS - GWILYM. Mai 11eg 2015. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yng Nghartref Nyrsio Madog, Porthmadog yn 88 mlwydd oed, o 5 Sgwar y Farchnad, Tremadog. Priod annwyl Betty, tad gofalus a charedig i Malcolm a Carys, Gareth a David. Taid balch a hoffus i Catrin a Daniel, Barri a Julie, Dylan, Sian a Simon ac Angharad a Stephen, Robat Rhys a Morgan. Brawd yng nghyfraith, cefnder a ffrind da iawn. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog Dydd Sadwrn Mai 16eg am 11.30 y bore ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Treflys. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Cymdeithas Spina Bifida, Gogledd Cymru trwy law yr ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn 01766 512091.
Keep me informed of updates