EvanGRIFFITHSGRIFFITHS - EVAN HUGH. Ebrill 27, 2008 yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Llain Garreg, Rhostrehwfa yn 79 mlwydd oed (gynt o Llain yr Eglwys). Priod annwyl a ffrind ffyddlon Eluned, tad arbennig i Heulwen, Arfon, Carol a Nia, tad yng nghyfraith hoff i Keith, Enid, Eddie a Steve, taid caredig i Emma, James, Angharad, Aled, Sara, Iwan, Elen a Philip, hen daid hoffus i George, Rosie, Ben, Sophie a Lucy, brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr annwyl. Bydd colled fawr i'w holl deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Sadwrn Mai 3ydd, gwasanaeth yng Nghapel Cana, Rhostrehwfa am 11 y bore ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent gyhoeddus Llangristiolus. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Capel Cana a Meddygfa Coed y Glyn trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7EF. Rhif ffon 01248 723497.
Keep me informed of updates