Evan AlunGRIFFITHSYn dawel yng Nghartref Nyrsio Blaendyffryn ger Llandysul ar ddydd Llun Chwefror 20, 2017 hunodd Evan Alun, Perthi Aur, Ffostrasol yn 92 mlwydd oed; priod ffyddlon y diweddar Gwen, tad gofalus Rhiannon, Cerdin ac Eric; tad-yng-nghyfraith parchus Phil a Debra; datcu hoffus Elain, Steffan, Angharad, Gethin a Heledd. Yn annwyl iawn gan ei deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth teuluol yn Amlosgfa Aberystwyth bore dydd Sadwrn Chwefror 25 am 11 y.b. ac yna Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Bwlchygroes, Llandysul am 1 y.p. Plethdorch y teulu'n unig. Derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru; trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates