BettyGRIFFITHSGRIFFITHS - BETTY, . 22ain Mawrth 2018. Yn dawel yng nghwmni ei theulu, yng Nghartref Nyrsio Bodawen, Porthmadog yn 88 mlwydd oed (gynt o Glandwr, Heol yr Wyddfa, Porthmadog). Priod addfwyn a ffyddlon y diweddar William George. Mam a mam-yng-nghyfraith garedig a gofalus Derek a'r ddiweddar Linda, Michael a Haf, Margaret a Tony. Nain balch a chariadus Tracy, Mandy, Elfyn, Dewi, Elen a Grace. Hen Nain Kelly, Emma, Hollie, Tomos ac Ifan. Chwaer annwyl Nesta, Hilda a'r diweddar Mair. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog am 1.30 o'r gloch, dydd Iau, 29ain Mawrth. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Tyn Llan, Penmorfa. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar pe dymunir at Gapel y Porth. Manylion pellach gan yr ymgymerwyr Pritchard & Griffiths Cyf., Stryd Dulyn, Tremadog. Tel 01766 512091.
Keep me informed of updates