BettyGRIFFITHSDymuna Derek, Michael, Margaret a theulu'r diweddar BETTY GRIFFITHS, gynt o Glan Dwr, Heol yr Wyddfa, Porthmadog ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam a mam-yng-nghyfraith, nain, hen nain a chwaer annwyl iawn. Diolch arbennig i'r Parchedig Christopher Prew am ei wasanaeth a'i ymweliadau cyson. Diolch hefyd i Mrs. Jean Lane, Mr Dylan Rowlands a Mr Glyn Roberts am eu cyfraniad ddydd yr angladd, i Malcolm, Dylan a'u staff (Pritchard & Griffiths) am eu trefniadau trylwyr a theimladwy a diolch am y rhoddion er cof a dderbyniwyd tuag at Gapel y Porth. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates