TomGRIFFITHSDymuna Enid, Rhian, Dylan a Nia ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Gwerthfawroga'r teulu y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon ac Ymchwil y Galon yng Nghymru er cof am Tom. Diolch yn arbennig i'r Parchedigion Helen Wyn Jones, John Owen, Gareth Edwards a Trefor Lewis am wasanaethu. Diolch i'r organydd Hefin Evans ac i bawb a fu'n cynorthwyo yn ystod y gwasanaeth. Carai'r teulu ddiolch hefyd i Deiniol a chwmni R.W.Roberts a'i Fab am y trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates