MedwenGRIFFITHSDymuna Talfryn, Huw a Rachel, Alun a Ffion a'u teulu bach Elis, Iago a Megan, heyd Eric a Leah, ddiolch o waelod calon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn y misoedd diwethaf. Maent yn ymwybodol eu bod wedi colli gwraig, mam, mam-yng-nghyfraith, nain, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith annwyl a thyner iawn. Diolch i genod Gofal Bro, y nyrsys cymunedol a lliniarol, bob un am eu gofal o Medwen. Diolch i'r Parch. Dewi Morris am y gwasanaeth teimladwy yn Llywenarth, cartref Medwen. Diolch hefyd i'r Parch. Iwan Llewelyn Jones, yr organydd Dr. Tristian Evans, ac i John Pritchard ac Eric Wyn Jones am eu cyfraniad i greu gwasanaeth llawn urddas a chariad. Hefyd diolch i Iolo a'i staff yn Roberts ac Owen am eu cefnogaeth a gwaith gofalus, ac i Enid a'r genod yn y Clwb Golff am y lluniaeth ardderchog. Yn olaf, diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Medwen tuag at Ymchwil Cancr.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Medwen