HarryGRIFFITHS20 Ebrill, 2024. Yn sydyn ac annisgwyl, yng nghwmni ei deulu, yn Ysbyty Gwynedd, ac o Tŷ Cerrig, Groeslon yn 75 mlwydd oed. Gŵr cariadus Gwen, tad gofalus Gareth a'i briod Caryl, ac Angharad a'i phriod Joe, a thaid annwyl a balch Branwen, Morgan a Math. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Mawrth, 28 Mai, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Tŷ Gobaith a Chlwb Pêl-droed Caernarfon. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Harry