Pyrs GoronwyGRIFFITHS10 Medi, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Deulyn Villa, Ffordd Clynnog, Pen-y-groes, yn 89 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Margaret, a thad arbennig Nora ac Aled; taid balch Iwan, Gerwyn, Llŷr, Catrin a Ffion, hen-daid gofalus Gwenlli Pyrs, brawd, brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoff, a ffrind triw i lawer.
Angladd brynhawn Llun, 12 Hydref, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Goni tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates