IoanGWALCHMAIGWALCHMAI - IOAN, 4ydd o Dachwedd 2020. Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Meddygcare, Cricieth yn 91 oed, gynt o Bryn Coch, Dyffryn Ardudwy. Tad tyner a gofalus Alma a Neris a chyfaill annwyl i'w feibion yng nghyfraith Dei a Tim. Taid balch a hwyliog Siôn (a Ginnie), Tomos (a Lisa), Hannah a Harri, Hen- daid Alice a Nancy. Bu'n frawd ac yn frawd yng nghyfraith ffyddlon ac ewythr siriol. Er wedi byw yn ardal Machynlleth am flynyddoedd, tra'n gweithio fel adeiladwr gyda'i frawd Richard, roedd bob amser yn cysidro ei hun yn 'un o gogie'r Aber' (Aberhosan). Cynhelir angladd hollol breifat, yn ôl ei ddymuniad. "Mae dy gofio yn hawdd; dy golli sy'n anodd". Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240.
Keep me informed of updates