Elizabeth IonaHAMPSON-JONESHunodd yn dawel yn Ysbyty Glangwili yng nghwmni ei theulu ar ôl salwch byr ddydd Mercher, Ebrill 24, 2019 yn 71 oed. Iona, merch annwyl Jane Mary a'r diweddar Alun Evans, Mam gariadus i Owain a Rhodri a Mam-yng-nghyfraith i Gwenllian a Felicity. Chwaer hoffus i Ken, Eilanwy Jaci, Goronwy, Deio, ac Eirlys. Mamgu hoffus ac arbennig i William ac Awel. Y teulu a'i ffrindiau i gyfarfod i ddathlu bywyd Iona yn Eglwys Dewi Sant, Capel Dewi, Llandysul ddydd Iau, Mai 2ail, am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig os gwelwch yn dda, rhoddion os dymunir i "Cancer Research UK" neu "Glangwili Oncology Fund" trwy law Hywel Bowen, Trefnyddion Angladdion D. L. Davies, Llys Gwyddon, Castellnewydd Emlyn, SA38 9RA. Ffôn: 01239 710 495.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth