John DesmondHAYESAthro Emeritus Amaethyddiaeth Prifysgol Aberystwyth 1979-1994 Yn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ddydd Sul, Rhagfyr 11eg, hunodd Des yn 91 mlwydd oed. Priod anwylaf Nansi, tad cariadus Sharon, John, Mike a Tim, tad-yng-nghyfraith hoff Pete, Bethan, Haf a Rebecca, tad-cu arbennig Carys, Dafydd, Mari, Cai, Beca, Magi, Ffred, Arthur, Osian a Trystan. Angladd Dydd Mercher, 21ain Rhagfyr 2022. Claddedigaeth preifat i'r teulu'n gyntaf ac yna Gwasanaeth Cyhoeddus o Ddiolchgarwch yng Nghapel Y Priordy, Caerfyrddin am 2.30pm. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion os dymunir tuag at: 'Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili' trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG 01267 237100
Keep me informed of updates