JaneHUGHESHUGHES - JANE ELLEN (Nellie). Hydref 3ydd, 2009. Yn dawel yng nghartref ei merch, Wendon, Bro Cymerau, Pwllheli, (gynt o Cefn Helyg, Llangybi) yn 86 mlwydd oed. Priod y diweddar Hywel, mam arbennig Gwilym, Alwyn, Valmai ac Emlyn, mam yng ngyfraith hoff Nancy, Nerys a'r diweddar Ron, nain annwylaf Delyth a'i chymar Rob, Meleri a'i chymar Darren, Sian Emlyn a'i phriod Huw, Mari Emlyn a Tomos Emlyn a hen nain i Jac. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Helyg, Llangybi dydd Iau, Hydref 8fed am 1.30 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent y Capel. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ganolfan Dydd Cricieth, trwy law G.D. Roberts a'i Fab, Capel Gorffwys, Pwllheli. 01758-701107.
Keep me informed of updates