CatherineHUGHESHUGHES - CATHERINE MAIR, 30 Pant Lodge, Llanfairpwll. Dymunwn ni, Helen, James a Dion, ddiolch o waelod calon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atom fel teulu yn ein profedigaeth o golli Mam a Nain arbennig ac unigryw. Bu'r llu o gardiau, ymweliadau a galwadau ffon yn gysur mawr i ni yn ystod yr amser galarus a thrist yma. Carem ddiolch yn fawr i'n Gweinidog Arthur Williams, Ewythr anrhydeddus o Griccieth, am ei wasanaeth personol a theimladwy a'i deurnged gofiadwy yn yr angladd. Estynnwn ein gwerthfawrogiad i'r Ymgymerwyr Arwel a Ieuan Hughes o John Hughes a'i Fab, Brittania, Amlwch, am drefniadau gofalus a thrylwyr a'r cymorth o'n arwain trwy'r cyfnod annodd yma. Diolch i bawb a gyfrannodd yn garedig tuag at Gronfa Calon Prydain, achos teilwng a elw o brofiad.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine