MaryHUGHESHUGHES - MARY. 22 Mai 2015 yn dawel yng nghwmni ei merch yng Nghartref Glan Rhos, Brynsiencyn dan ofal arbennig y staff, gynt o 9 Tan y Foel, Llanerchymedd â Thalwrn, yn 96 mlwydd oed. Gwraig y diweddar Owen John, mam a ffrind annwyl Hefina a'r ddiweddar Ceridwen, mam yng nghyfraith Edgar a Richard, nain arbennig Eirian, Nia, Gethin, Iestyn ac Esyllt, hen nain garedig ei gor wyrion a wyresau, chwaer hoffus Elenor a'i diweddar frodyr a chwiorydd, modryb hoff a ffrind i lawer. Angladd dydd Gwener, 29 Mai. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Brynteg am 12.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent y Capel. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Uned Staff Glan Rhos trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates