CarolHUGHESHUGHES - CAROL. 29 Ionawr, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, 19 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, yn 72 mlwydd oed. Mam gariadus Martin a Christine, mam-yng-nghyfraith hoff Ger a Nia, nain arbennig Simon, Sara, Cai, a Gwion, hen-nain falch Caio Wyn, a chwaer dyner Wenda a'r teulu. Angladd brynhawn Iau, 5 Chwefror, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Rhedyw am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Gorffwysfa. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at nyrsus Macmillan a Marie Curie. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates